Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 8 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:10 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jon Rae, CLLC Mari Thomas, CLLC Huw Vaughan Thomas, Auditor General for Wales, Wales Audit Office Mike Usher, Group Director - Financial Audit, WAO |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Rheoli grantiau yng Nghymru - tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, a Mari Thomas, Swyddog Polisi (Cyllid), CLlLC i’r cyfarfod.
2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd CLlLC ar y canlynol:
· I ddarparu eglurhad o’r angen i hepgor taliadau diswyddo (a’r defnydd o’r hepgoriadau hyn) pan fo staff awdurdodau lleol yn gweithio ar gontractau tymor penodol; ac
· Eglurhad ynghylch a yw angen o’r fath yn deillio o Reoliadau Ewropeaidd.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Eitemau 4 i 7.
4. Ystyried y dystiolaeth ynghylch rheoli grantiau yng Nghymru
4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth ynghylch ei ymchwiliad i reoli grantiau yng Nghymru.
5. Ystyried ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) drafft
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) drafft, a fydd yn cael ei anfon at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ cyn hir.
6. Ymdrin â gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a gafodd ei gan y Pwyllgor ar 24 Ebrill 2012.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofal preswyl i bobl hŷn (sy’n cynnwys ystyriaeth o effeithiolrwydd y drefn reoli bresennol) cyn dod i benderfyniad ynghylch cymryd camau pellach o ganlyniad i ohebiaeth yr Archwilydd Cyffredinol.
7. Ystyried ymweliad â Chynulliad Gogledd Iwerddon
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ymweliad arfaethedig â Chynulliad Gogledd Iwerddon.
7.2 Gofynnodd y Pwyllgor i’r Clerc baratoi cynigion manylach ar ei gyfer (gan gynnwys dyddiadau).
8. Papur i'w nodi
8.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion ei gyfarfod ar 1 Mai 2012.
Trawsgrifiad